Manceinion, y Dinasoedd Craidd a Sgwrs Caerdydd

Wythnos diwethaf, teithiais i Fanceinion i ymweld â chynrychiolwyr Dinasoedd Craidd Lloegr. Mae Grŵp y Dinasoedd Craidd yn galluogi awdurdodau lleol i gydweithio i hyrwyddo rôl dinasoedd yn y gwaith o hybu twf economaidd. Mae’n cynnwys yr wyth o economïau dinesig mwyaf yn Lloegr y tu allan i Lundain, sy’n gartref i tua 16 miliwn o bobl yn y rhanbarthau dinesig ehangach – bron traean o boblogaeth Lloegr. Mae’r dinasoedd craidd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu 27% o gyfoeth Lloegr sydd, o’u cyfuno, yn fwy na Llundain.

Yng Nghymru, mae llawer yn gyffredin rhwng Caerdydd â’r dinasoedd craidd hyn o ran ein pwysigrwydd i’r economi ranbarthol ehangach a chenedlaethol. Mae Caerdydd a Bro Morgannwg yn gyfrifol am fwy nag un rhan o bump o allbwn economaidd Cymru a, rhwng 2009 a 2012, roedd 38% o’r holl swyddi sector preifat newydd a grëwyd yng Nghaerdydd. Felly mae’n bwysig, fel dinas, ein bod yn ymgysylltu â’r trafodaethau polisi ehangach hyn oherwydd gallant helpu i sbarduno twf a ffyniant Caerdydd a rhanbarth ehangach De Cymru.

Tra roeddwn ym Manceinion, cwrddais â Syr Richard Leese, Arweinydd Cyngor Dinas Manceinion a Chadeirydd Grŵp y Dinasoedd Craidd, yn ogystal â Syr Howard Bernstein, Prif Weithredwr Cyngor Dinas Manceinion. Cawsom drafodaeth ddiddorol dros ben ar ranbarthau dinesig llwyddiannus, y bwriad i ddatganoli pwerau newydd i ddinasoedd a rhanbarthau, yn ogystal ag adfywio cynaliadwy. Yn wir roedd llawer o heriau a safbwyntiau cyffredin gennym o ran y ffordd ymlaen.

Rwy’n bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaith ymgysylltu hwn â dinasoedd ledled Ewrop fel y gallwn sicrhau bod Caerdydd mewn lle da i wynebu’r heriau a’r cyfleoedd o’n blaenau.

O ran adfywio, roedd ymweliad â datblygiad NOMA Manceinion hefyd ar yr agenda.

BB168 1

Gwaith adfywio ar 20 acer o dir trefol sy’n berchen i The Co-operative Group a Hermes Real Estate yw NOMA. Uchelgais NOMA yw bod yn fwy nag adeiladau. Maent am fod yn bennod newydd yn hanes Manceinion drwy sefydlu lleoliadau o safon i fyw ynddynt. Roedd y datblygiad yn cynnig cymysgedd o lefydd i weithio, byw, ymweld, siopa, bwyta a mwynhau a rhoddodd fy ymweliad gipolwg ar sut mae dinasoedd eraill yn bwrw ymlaen â’u hagenda adfywio, yn ogystal â chyfle i siarad am gynlluniau datblygu cyffrous yma yng Nghaerdydd.


Ym mis Mehefin blogiais am lansiad Sgwrs Caerdydd, rhaglen ymgysylltu barhaus ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yn ein dinas. Hyd yn hyn mae Sgwrs Caerdydd wedi ymweld â nifer o ardaloedd yn y ddinas, wedi bod i lawer o ddigwyddiadau a lleoliadau cymunedol, a bydd yn ymweld â llawer mwy yn ystod y misoedd i ddod.

I ddechrau, holwyd trigolion am eu barn ar ein blaenoriaethau ar gyfer y ddinas, a gofynnwyd iddynt wrando ar syniadau o ran sut gallwn wneud pethau yn wahanol.

Roedden ni hefyd eisiau gwybod sut gallai pobl a chymunedau lleol gyfrannu mwy at gefnogi’r newidiadau hyn.

Mae Sgwrs Caerdydd nawr yn dechrau cynnal ‘gweithdai galw heibio’ ledled y ddinas. Yn y gweithdai bydd pobl yn cael eu holi am y math o wasanaethau y maent yn eu defnyddio a beth sy’n bwysig am y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Bydd rhan o’r drafodaeth hefyd yn cynnwys ystyried dulliau eraill o ddarparu gwasanaethau.

BB168 2BB168 3

Mae wedi bod yn ddiddorol iawn darllen rhai o’r syniadau da y mae trigolion wedi eu rhannu ar sut y gall Cyngor Dinas Caerdydd a’i bartneriaid wneud pethau’n wahanol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu.

Mae’r syniadau yn amrywio o bylu rhai goleuadau stryd yn oriau mân y bore, i roi paneli solar ar bob adeilad cyhoeddus. Mae’n wych bod cymaint o bobl wedi cymryd rhan hyd yma. Dim ond dechrau’r sgwrs yw hyn, a bydd cyfleoedd pellach i bobl gyfrannu eto yn y dyfodol. Fel y dywedais o’r blaen, bydd gofyn gwneud rhai penderfyniadau pwysig o ran penderfynu ar natur gwasanaethau cyhoeddus yn y ddinas, ac mae Gweinyddiaeth bresennol y cyngor wedi ymrwymo i gynnwys pobl yn y broses honno.

BB168 4

Gallwch hefyd gael manylion am y sesiynau sgwrsio ar y stryd a’r gweithdai galw heibio yn Llyfrgell Sblot, Llyfrgell Cathays, Neuadd Gymunedol Plasnewydd, Canolfan Gymunedol Pen-y-lan, Canolfan Hamdden Channel View, Canolfan Hamdden STAR, y Llyfrgell Ganolog, Llyfrgell Ystum Taf, Llyfrgell Radur a Llyfrgell Grangetown.

Mae cardiau post a blychau post Sgwrs Caerdydd bellach ar gael yn Hyb Cynghori Canol y Ddinas yn Nhŷ Marland, Hyb Butetown, Hyb Llanrhymni, Hyb Llaneirwg, Hyb Trelái a Chaerau, Canolfan Hamdden y Gorllewin, Canolfan Hamdden y Tyllgoed, Canolfan Hamdden Maendy, Canolfan Hamdden Llanisien a Neuadd y Sir.

Gall y cyhoedd hefyd gwblhau arolwg Sgwrs Caerdydd ar-lein yn www.surveys.cardiff.gov.uk/cardiffdebate

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau’r haf yn ogystal ag adborth o’r sesiynau a gynhaliwyd cyn belled, ewch i gyfrif Sgwrs Caerdydd ar Twitter @SgwrsCaerdydd neu i’r tudalennau Facebook.