Caerdydd Graff a Chymru Lwyddiannus

Caerdydd Graff

Ddydd Mercher bûm mewn digwyddiad lle aethom ati i greu gweledigaeth o ddyfodol Caerdydd hyd at y flwyddyn 2040. Nod y gweithdy oedd ystyried sut effaith y gallai tueddiadau a phwysau cyfredol ei chael yn y dyfodol, a pha benderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud i’n helpu i reoli’r ddinas yn y dyfodol, yn enwedig yng nghyd-destun twf cyflym yn y boblogaeth a phwysau ariannol difrifol.

Roedd rhan o’r gwaith yn ymwneud â thrafod beth yw gwir ystyr “bywiadwyedd”, beth fyddai canlyniadau peidio â gweithredu, a chael dealltwriaeth o sut y gallai technoleg ac integreiddio seilwaith helpu sicrhau bod Caerdydd yn parhau i fod yn ddinas sy’n cynnig yr ansawdd bywyd uchaf posibl.

Roedd nifer o siaradwyr, oll yn arbenigwyr mewn meysydd gwahanol o ran rheoli a datblygu dinasoedd, yn bresennol, yn ogystal â 50 o gynadleddwyr. Er enghraifft, cafwyd cynrychiolaeth o’r sector digidol a’r sector cyfleustodau, yn ogystal â darparwyr trafnidiaeth, amrywiaeth o bartneriaid darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac roedd yn bwysig bod y Cyngor Ieuenctid yno hefyd. Roeddem hefyd wrth ein bodd bod Mark Watts, Cyfarwyddwr Gweithredol y dinasoedd C40 rhyngwladol yn bresennol i rannu arfer da â ni.

Gallai mabwysiadu technoleg ddeallus wneud cyfraniad pwysig at leihau ôl troed carbon Caerdydd, sicrhau y gwneir defnydd mwy effeithiol o adnoddau a gwella cysylltedd. Mae’r holl ffactorau hyn yn bwysig o ran llunio dinas i fyw ynddi.

Rhoddwyd ystyriaeth i lawer o enghreifftiau o arfer da o ddinasoedd ledled y DU ac yn rhyngwladol, a chytunwyd ar waith i ddatblygu rhai cynigion diddorol iawn ar gyfer Caerdydd gyda rhanddeiliaid allweddol megis y bwrdd iechyd, y cyngor ieuenctid a Chyngor Busnes Caerdydd. Bydd yr egwyddorion a’r syniadau hyn yn bwydo i mewn i Gonfensiwn Caerdydd hefyd.

Croesawu Athletwyr Gemau’r Gymanwlad yn ôl

Yn sgîl llwyddiant Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow, rhoddwyd cydnabyddiaeth haeddiannol i Arwyr Chwaraeon Cymru yn y seremoni groesawu a gynhaliwyd ddydd Iau. Roedd hi’n bleser mawr i gwrdd â rhai o’r athletwyr rhyfeddol sydd wedi treulio cymaint o’u hamser yn ceisio sicrhau rhagoriaeth ar y maes chwarae.

Team Wales

Darlledwyd fideo o uchafbwyntiau ymdrechion tîm Cymru ar y sgrîn fawr ym Mae Caerdydd, a chawsom ein hatgoffa o’r 36 o fedalau a enillwyd – sef 5 medal aur, 11 medal arian ac 20 medal efydd – gan athletwyr Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Roedd teuluoedd, cyfeillion a swyddogion oll yn bresennol hefyd, ac roedd hi’n braf i weld bod cynifer o drigolion Caerdydd wedi gwneud yr ymdrech i ddod i’r Senedd i longyfarch Tîm Cymru.

Mae llwyddiant Gemau’r Gymanwlad yn yr Alban yn dangos pwysigrwydd y digwyddiadau hyn o ran hyrwyddo dinasoedd a helpu i ddenu talent a buddsoddiad i’r ardal. Mae Caerdydd eisoes wedi ennill ei phlwyf yn fyd-eang o ran cynnal digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol llwyddiannus, ac rydym yn bwriadu datblygu ar sail hyn.

Fel y soniais yn flaenorol, rydym yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru i ystyried y posibilrwydd y gallai Cymru wneud cynnig i gynnal Gemau’r Gymanwlad yn y dyfodol. Mae Cymru hefyd yn gwneud cynnig i gynnal rhai o gemau Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA 2020. Ewro 2020 yw’r trydydd twrnamaint chwaraeon mwyaf yn y byd – ar ôl gemau Olympaidd yr haf a Chwpan y Byd FIFA. Byddai cynnal rhai o’r gemau hyn yn hwb sylweddol i Gaerdydd, ac yn werth tua £40 miliwn i economi’r ddinas a’r rhanbarth o bosibl.

Rhagor o Ddatganoli i rymuso Caerdydd

Mewn llai nag wythnos bydd pobl yr Alban yn bwrw pleidlais i wneud un o’r penderfyniadau pwysicaf yn hanes y wlad honno. Ni waeth beth fo’r canlyniad, caiff rhagor o bwerau a chyfrifoldebau eu datganoli yn sgîl hyn. Felly beth yw goblygiadau hyn i ni yng Nghymru?

Yn ddiweddar cyhoeddodd Comisiwn Twf Dinasoedd yr RSA adroddiad o’r enw ‘Powers to Grow: City finance and governance’. Mae’r adroddiad yn cyflwyno achos dros ddatganoli ac arallgyfeirio economi’r DU i ffwrdd o Lundain a De-ddwyrain Lloegr er mwyn gwneud dinasoedd yn fwy llwyddiannus.

Mae’n hawdd deall pam. Mae dinasoedd eisoes yn cynhyrchu 80% o gynnyrch domestig gros (GDP) y byd, ac yn y dyfodol, nid dim ond dinasoedd o bwysigrwydd byd eang megis Llundain ac Efrog Newydd, neu ddinasoedd mawr newydd Asia fydd yn datblygu, fel y mae llawer y tybio.
Yn hytrach, rhagwelir y bydd dinasoedd o faint canolig yn cynhyrchu 19% o holl dwf GDP y byd hyd at 2025, sef dinasoedd megis Caerdydd.

Mae gennym hanes da o lwyddiant yng Nghaerdydd. Crëwyd tua 62% o’r swyddi net newydd yn Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yma, yn y ddinas. Hynny yw, yma yng Nghaerdydd y crëwyd 2 o bob 3 o swyddi newydd a grëwyd yn ne-ddwyrain Cymru.

Mewn rhanbarth lle mae gormod o lawer o bobl yn dal i ddioddef yn sgîl dad-ddiwydiannu, yn hytrach nag ystyried bod Caerdydd yn cystadlu am arian cyhoeddus prin gan Lywodraeth Cymru, rhaid ystyried hyn fel cyfle i ddenu buddsoddiad o’r tu hwnt i Gymru, er budd Cymru.

Mae’r llywodraeth ganolog yn Lloegr wedi cydnabod rôl bwysig dinasoedd.

Mae busnesau metropolitan, arweinwyr gwleidyddol a’r Trysorlys yn llunio cytundebau gwerth biliynau a bunnoedd sy’n sicrhau twf dinasoedd. Oherwydd pwysigrwydd yr agenda hon, rhaid i ni yng Nghymru sicrhau ein bod ar flaen y gad.

Ansawdd bywyd gorau – Caerdydd yn drech na’r holl ddinasoedd mawr eraill

Yn ôl astudiaeth gan y wefan MoneySuperMarket , Caerdydd yw’r ddinas orau yn y DU o ran ansawdd bywyd. Mae hyn yn ategu canfyddiadau Arolwg Archwiliad Trefol diweddaraf yr UE y soniais amdano yn fy mlog ychydig wythnosau yn ôl.

Yn ôl yr adroddiad, sy’n seiliedig ar ystod o ddangosyddion economaidd allweddol megis: y cynnydd yn mhrisiau tai a rhent, y cynnydd o ran cyflogau ac incwm gwario, costau byw, cyfraddau diweithdra a “boddhad â bywyd”, cafodd Caerdydd sgoriau da.

Mae hyn yn dangos bod Caerdydd mewn sefyllfa dda o ran gwireddu ein gweledigaeth o fod y ddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.