2015: Blwyddyn Allweddol i Wasanaethau Cyhoeddus

Daffodils, City Hall, Civic Centre, Cardiff, South Wales

Yr wythnos hon, daeth ymgynghoriad cyhoeddus y Cyngor ar y rownd ddiweddaraf o doriadau i gyllideb y ddinas i ben.

Mae holl gynghorau’r DU yn wynebu gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid, ac mae Arweinwyr Cynghorau yng Nghymru eisoes wedi rhybuddio am faint a hyd y toriadau a fydd yn niweidio ffabrig cymdeithasol cymunedau ledled y wlad.

Disgwylir toriadau dyfnach yn y dyfodol agos, a bydd yn rhaid lleihau cyllidebau gwasanaethau yng Nghaerdydd £48.3 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol o Ebrill 2015. Hefyd, mae’n rhaid i ni dorri £75 miliwn arall o gyllidebau dros ddwy flynedd y tu hwnt i 2015.

Mae angen i ni baratoi ar gyfer effeithiau hyn ar ein gwasanaethau lleol yng nghyllidebau’r blynyddoedd nesaf.

Mae £130 miliwn eisoes wedi’i gymryd o gyllideb y cyngor ers 2009, a disgwylir i’r ffigur hwn gynyddu i tua £254 miliwn erbyn 2018. Ond lle ceir caledi ariannol ochr yn ochr â galw cynyddol am wasanaethau – er enghraifft, wrth i fwy o ddisgyblion ddechrau yn ein system addysg ac wrth i’r henoed fyw’n hirach a defnyddio mwy o gymorth cartref a gofal cymdeithasol – mae’n amlwg y bydd yn rhaid i rôl cynghorau lleol newid yn sylweddol i gadw o fewn y cyllidebau sydd ar gael.

Financial-Challenges-ENG

Ers yr haf, mae ein staff, ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a’n haelodau etholedig wedi bod i ddigwyddiadau ledled y ddinas fel rhan o Sgwrs Caerdydd, gan wrando ar awgrymiadau a phryderon trigolion ac esbonio manylion rhai o gynigion cyllidebol penodol 2015/16. Roedd ymgynghoriad y Cyngor ar y gyllideb, a barodd saith wythnos gan ddod i ben ddydd Llun, yn un o’r hiraf mewn cof. Ar yr un pryd, rydym wedi ceisio codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chynnwys trigolion a defnyddwyr gwasanaeth yn y gwaith o benderfynu ar atebion posibl. Yn sicr, bydd angen parhau â’r sgwrs hon.

Ym marn rhai o’n gwleidyddion lleol a chenedlaethol (heb fy nghynnwys i!), rhaid i ni dargedu toriadau cyllidebol at wasanaethau cyhoeddus lleol i leihau dyled y DU. Ond, er gwaetha’r niwed y mae’r toriadau i lywodraeth leol yn ei achosi’n barod, nid yw’r diffyg wedi lleihau mor gyflym ag y disgwyliwyd yn 2010. Yn waeth na hynny, dan gynlluniau presennol y llywodraeth, bydd 60% o gyfanswm toriadau gwariant rhwng 2010 a 2020 yn dod yn ystod y tymor seneddol nesaf (2015-2020).

Gan fod y sector cyhoeddus yn colli arian mor gyflym, os na fyddwn yn moderneiddio ac yn gwneud pethau’n wahanol, mae’n bosibl na allwn ddal ati i’w gwneud o gwbl.

Fel rhan o Sgwrs Caerdydd, roedd rhai o’r prif negeseuon gan drigolion yn cynnwys yr angen i dorri biwrocratiaeth a chostau uwch reoli, creu rhagor o incwm a buddsoddi mewn technolegau ynni effeithlon. Rydyn ni’n gwneud mwy a mwy o’r pethau hyn, gan arbed miliynau o bunnoedd i drethdalwyr lleol ond, gyda lefel y toriadau sydd ar y gweill, ni fydd hyd yn oed hynny’n ddigon.

Yng Nghaerdydd, rydym wedi ymateb gyda gweledigaeth glir i’r ddinas – i sicrhau mai dyma’r brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop – a chyfres o brojectau adfywio i gefnogi swyddi newydd a thwf dros y blynyddoedd nesaf. Dwy enghraifft o’r fath yw’r cynlluniau cyffrous i greu cyfnewidfa fysus ganolog newydd a miliwn troedfedd sgwâr o swyddfeydd, gofod hamdden a gofod manwerthu newydd o’r radd flaenaf yn y Sgwâr Canolog, gan gynnwys adeilad a ddyluniwyd gan Norman Foster ar gyfer BBC Cymru.

Rydym hefyd wedi cynyddu ein gwaith gyda rhanddeiliaid allweddol i ddadlau’n gryfach dros fuddsoddiad ychwanegol yn seilwaith Caerdydd a’r rhanbarth dinesig, gan lobïo Llywodraeth y DU am ‘Fargen Twf Dinasoedd’, ymaelodi â Dinasoedd Craidd y DU, a thrwy waith Cyngor Busnes Caerdydd.

Rydyn ni am fuddsoddi mewn twf cynaliadwy, cartrefi newydd a swyddi gan y bydd hyn yn dod â mwy o incwm i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Mae o fudd i ni sicrhau bod gan fwy o bobl waith â thâl a’u bod yn talu trethi, gyda system drethu sydd hefyd yn ceisio sicrhau bod llywodraeth leol yn gwneud mwy i ehangu economïau lleol ymhellach.

Ond yn y byrdymor, mae’n dod yn anoddach fyth diogelu ein cymunedau rhag toriadau i’r gyllideb wrth iddynt effeithio fwyfwy ar y gwasanaethau y mae nifer ohonom yn dibynnu arnynt. Yn y gorffennol roedd modd cysuro’n hunain bod y toriadau mwyaf yn digwydd yn Lloegr, ond dros y blynyddoedd nesaf mae’n dod yn fwy amlwg, heb setliad ariannol tecach i Gymru, y bydd y toriadau hyn yn cyrraedd carreg ein drws mewn ffordd amlycach o lawer.

Dyma pam fod nifer o Gynghorau ledled y wlad yn dadlau na fydd modd gwneud rhagor o doriadau heb newid ffabrig gwasanaethau cyhoeddus yn ein gwlad yn sylweddol. Nid dyma pam y gwnaeth y cynghorwyr rwy’n eu hadnabod geisio gwaith ym myd gwleidyddiaeth leol. A dyma pam y bydd 2015 hefyd yn flwyddyn allweddol wrth lunio dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus.