Gytundeb Dydd Gŵyl Dewi, Ynni Adnewyddadwy a Llwyddiant Digidol

Ddydd Gwener diwethaf cafwyd rhai cyhoeddiadau diddorol am drefniadau ariannu a phwerau newydd posibl Llywodraeth Cymru – gan gynnwys sefydlu ‘terfyn ariannu isaf’ i Gymru. Roedd hyn yn rhan o’r hyn a alwyd yn ‘gytundeb Dydd Gŵyl Dewi’, a bydd yn ddiddorol gweld rhagor o fanylion goblygiadau ymarferol y cynigion hyn i Gymru.

Gwyddom fod angen ystyried sefydlu cytundeb ariannu teg i Gymru. Daeth gwaith comisiwn annibynnol i’r casgliad bod Cymru wedi’i thanariannu gan tua £150 miliwn y flwyddyn o dan y trefniadau cyfredol.

Yng Nghaerdydd, buom yn gweithio’n galed i ddadlau o blaid taro bargen newydd i sicrhau twf y ddinas, er mwyn lobïo o blaid buddsoddiadau seilwaith ychwanegol yng Nghaerdydd a’r dinas-ranbarth ehangach. Byddwn yn parhau i weithio’n galed i ddadlau o blaid cyllid ychwanegol, a nodi beth y gallai goblygiadau cytundeb Dydd Gŵyl Dewi fod i Gaerdydd.

Morlynnoedd llanw, ynni adnewyddadwy a chynllun Cyd Cymru

Mae’r cynlluniau i greu’r Morlynnoedd ynni’r llanw cyntaf y byd yng Nghymru yn ddiddorol iawn. Er bod angen gwneud cryn dipyn o waith o hyd cyn y gellir gweithredu unrhyw un o’r projectau hyn, dylem groesawu’r diddordeb cynyddol mewn Cymru fel canolfan ryngwladol ar gyfer ffynonellau ynni gwyrddach ac ynni adnewyddadwy. Soniais yn un o’m cofnodion blog blaenorol am fenter Dinasoedd Mawr y Gorllewin Caerdydd, mewn partneriaeth â Bryste a Chasnewydd. Un o’r rhesymau allweddol dros gydweithio yw gallu manteisio ar botensial Aber Afon Hafren, sydd ag un o’r amrediadau llanw mwyaf yn y byd, fel ffynonellau ynni adnewyddadwy posibl ar garreg y drws. Mae’r awdurdodau lleol ar lannau Môr Hafren wrthi’n paratoi memorandwm cyd-ddealltwriaeth i gydweithredu i ddatblygu ynni’r môr, gyda Chaerdydd, Casnewydd a Bryste yn chwarae rôl flaenllaw.

Wrth sôn am ynni, mae’n werth nodi y daw cyfnod cofrestru diweddaraf cynllun cydfargeinio ynni Cyd Cymru i ben ar 22 Mawrth. Mae’r cynllun hwn wedi arbed £185 y flwyddyn ar gyfartaledd ar filiau ynni pobl fu’n cymryd rhan yn y cynllun yn y gorffennol. Mae’r cynllun yn helpu i hybu Caerdydd decach, felly beth am gofrestru a gweld p’un a allwch arbed arian ar eich biliau.

http://www.caerdydd.gov.uk

Yn sgîl ailwampio gwefan y Cyngor y llynedd, bellach mae’r wefan wedi cyflawni’r safle 4 seren gorau posibl, ac wedi’i chydnabod yn un o’r 20 gwefan awdurdod lleol gorau yn y DU yn dilyn adolygiad gan y sefydliad TG proffesiynol, SOCITM. Mae hyn yn welliant sylweddol ar y safle un seren a gyflawnwyd y llynedd, a dyma’r ail dro yn unig i wefan Cyngor wella o un seren i 4 seren mewn blwyddyn. Mae gwasanaethau digidol y Cyngor yn hollbwysig o ran darparu gwasanaethau ymatebol ac effeithlon. Diolch yn fawr i bawb fu’n rhan o’r project hwn!

Bydd angen i ni barhau i wella ein gwefan a’n gwasanaethau ar-lein yn y dyfodol, gan roi’r cyfle i bobl wneud mwy ar-lein, felly mae croeso i chi gysylltu â ni , a rhowch wybod i ni os ydych o’r farn y gallwn wneud pethau’n well.

Yn olaf, bydd llawer ohonoch wedi darllen am y broses anodd o bennu’r gyllideb wythnos ddiwethaf. Mae cyllideb bellach wedi’i phennu ar gyfer y flwyddyn nesaf, a bydd y gwaith yn dechrau nawr i baratoi ar gyfer mantoli’r diffyg cyllidebol o £119 miliwn yn 2016/17 – 2018/19 a thrafod goblygiadau hyn i’r ddinas.

Diolch,

Phil