Llyfrgell Ganolog ar ei newydd wedd a dechrau codi’r Gyfnewidfa Drafnidiaeth

Ailagor y Llyfrgell Ganolog!

Mae’r Llyfrgell Ganolog wedi ailagor ar ôl gwneud gwaith gwella mawr arni. Mae hi wedi newid gryn dipyn dros y ganrif a hanner ddiwethaf, pan agorwyd y llyfrgell gyhoeddus gyntaf oddi uwch yr Arcêd Brenhinol yng nghanol y ddinas.

Mae’r Llyfrgell Ganolog wedi cael ei gweddnewid ac mae gwasanaethau a nodweddion ychwanegol i’r cyhoedd yno.

Bydd ar agor 6 diwrnod yr wythnos ac yn cynnig ystod o wasanaethau’r Cyngor a’i bartneriaid mewn un lle gan gynnwys tai a budd-daliadau, gwasanaethau i mewn i waith, cyngor ariannol, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro ac wrth gwrs – miloedd o lyfrau!

Bydd hefyd “llawr digidol” gyda’r cyfarpar diweddaraf (gan gynnwys argraffydd 3D) a chyfrifiaduron a Wi-fi cyhoeddus am ddim. Mae hefyd llyfrgell i bobl ifanc a man digwyddiadau newydd ar y llawr gwaelod, gyda phiano’n goron ar y cyfan!

Dwi wedi blogio yn y gorffennol am y Clwb Codio i blant ysgol o ardal Caerdydd. Mae bellach wedi’i adleoli i’r Llyfrgell Ganolog a bydd yn gweithio’n agos gyda’r cyngor a Phrifysgolion i gynnal sesiynau codio a llythrennedd digidol ychwanegol i ysgolion.

Cardiff Central Library Revamp

(Cartref newydd y Clwb Codio)

Bydd y Tîm Llyfrgelloedd hefyd yn gweithio gyda Cardiff Start i gynnig ystafell gyfarfod ar ei newydd wedd ar y pedwerydd llawr, ac ystafell greadigol i gynnal cyfarfodydd, cyflwyniadau a mannau i gynnal seminarau i fusnesau technoleg newydd a sefydliadau eraill yn y ddinas.

Newid mawr i’r Sgwâr Canolog

Ar 1 Awst bydd y bws olaf yn ffarwelio â Gorsaf Fysus Caerdydd fel bod modd codi’r Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd.

Bydd y Gyfnewidfa’n cysylltu teithio â rhwydweithiau trenau, bysus, beiciau a thacsis yn ogystal â bod yn lle y gall ymwelwyr a thrigolion gwrdd, bwyta a siopa yno. Caerdydd fydd y ddinas fydd yn tyfu gyflymaf yn y DU, felly mae’n bwysig i ni baratoi at y twf hwn.

Bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau tua diwedd 2017. Bydd y llwybrau bysus yn dal i weithredu, ac yn cael eu symud i strydoedd yn agos at yr hen Orsaf Fysus, gyda gwasanaethau National Express bellach yn gadael o’r parc bysus yng Ngerddi Sophia. Bydd y safleoedd bws mewn llefydd amlwg a bydd arwyddion mawr yn cyfeirio pobl atynt yng nghanol y ddinas, yn ogystal â mapiau yn yr Orsaf Drenau, yn y Cyngor ac mewn adeiladau cyhoeddus eraill ledled y ddinas. Gallwch hefyd weld y map ar wefan y cyngor. Bydd staff y Cyngor wrth law am y pythefnos cyntaf i helpu pobl sy’n ceisio dod o hyd i’w safle bws nhw.

Bus

Gallai hyn fod braidd yn anghyfleus i ddechrau, ond bydd hwn yn ddatblygiad eiconig a bydd yn borth i’r ddinas y gallwn ymfalchïo ynddo ac yn ein helpu i fod y brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.

Diweddariad ar y Fargen Ddinesig

Efallai eich bod wedi darllen yn y wasg yr wythnos hon bod 10 awdurdod lleol Prifddinas-ranbarth Caerdydd wedi cytuno’n ffurfiol i ddod ynghyd i lunio cais am Fargen Ddinesig. Sefydlwyd cronfa. Mae’r ymrwymiad hwn yn gam mawr ymlaen.

Nod y Fargen Ddinesig yw denu lefel sylweddol o gyllid newydd i Brifddinas-ranbarth Caerdydd i ategu ei ddatblygiad economaidd. Nawr, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, bydd y deg cyngor yn dechrau gwaith i ddatblygu cynnig er mwyn i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn economi’r dinas-ranbarth i greu swyddi a chynyddu allbwn economaidd.

Trefnwyd cyfarfodydd misol ar gyfer yr holl arweinwyr, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol hefyd, i ddatblygu’r cynnig, ac mae swyddogion wedi sefydlu gweithgor ar draws pob un o’r deg awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r achos busnes manwl ar gyfer y Fargen Ddinesig. Gyda’n gilydd gallwn wneud achos teilwng i fuddsoddi, gan adfywio economi’r rhanbarth, a sicrhau cymaint o fuddsoddiad mewn seilwaith ag yng ngweddill y DU fel y gallwn gystadlu â rhannau eraill o’r DU.

Hwyl yr Haf

Cofiwch, os oes gennych deulu neu ffrindiau yng Nghaerdydd dros yr haf, fod digon i’w wneud yma, gan gynnwys mynd i Draeth Bae Caerdydd a Gŵyl Caerdydd. Mae gwybodaeth am bopeth sy’n digwydd yng Nghaerdydd ar wefan a thudalen Facebook y Cyngor.

Hwyl,

Phil