Newidiadau i Gaerdydd a Mynd i’r Afael â Newid yn yr Hinsawdd

Cyllideb

Mae Caerdydd, fel pob cyngor ym Mhrydain, yn wynebu heriau ariannol mawr. Mae ein fideo defnyddiol isod am yr her gyllidebol yn rhoi trosolwg i chi o faint yr her sy’n wynebu Cyngor y Ddinas, gan gynnwys yr angen i ymateb i ddiffyg o tua £115 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan cyllideb drafft ar gyfer 2016/17. Mae’n galonogol na fydd ein toriadau gynddrwg ag yr oeddem yn ei ddisgwyl, ac rydym yn trafod manylion y gyllideb er mwyn gweld beth fydd y goblygiadau ar gyfer Caerdydd. Sylwer mai cytundeb dros dro yw hwn, ac mai ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unig y mae’n weithredol. Bydd Llywodraeth Cymru yn datgan ei chyllideb bob blwyddyn felly bydd y swm y byddwn yn gallu ei arbed bob blwyddyn yn amrywio. Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio gwarchod Llywodraeth Leol, ac rydym yn ddiolchgar iawn.

Mae rhaid i ni adeiladu ar hyn nawr a chynnal trafodaeth agored ynglŷn â sut y gallwn ni gynnal gwasanaethau. Gallwn ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael i ni drwy ddatganoli er mwyn dilyn trywydd gwahanol i Loegr, lle mae toriadau Llywodraeth y DU yn golygu mai cynghorau lleol sydd wedi dioddef waethaf. Mae pobl yn gwerthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus da, maen nhw’n rhan allweddol o’n cymunedau ac mae’n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i’w hamddiffyn.

Mae nifer o gynigion ar gyfer sut y gallwn arbed arian yn 2016/17, ac mae arnom eisiau eich adborth ar y rhain, drwy ein harolwg ar-lein neu yn un o’r  digwyddiadau ar draws y ddinas.

Cewch wybod sut y gallwch ddweud eich dweud ar wefan cyllideb y Cyngor.

Bydd yr ymgynghori’n digwydd tan 12 Ionawr ac rydw i’n eich annog i fynegi’ch barn cyn cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Chwefror a fydd yn cytuno ar gyllideb.

 

Newid yn yr Hinsawdd

Cefais i’r fraint o siarad yn Newid yn yr Hinsawdd: Ymrwymiad i Weithredu, a gynhaliwyd gan Gomisiwn Cymru ar Newid yn yr Hinsawdd. Daeth y digwyddiad hwn â gwleidyddion a chynrychiolwyr diwydiannol, addysg a chymunedol at ei gilydd ar yr un adeg â Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd ym Mharis.

Blog3

Cydnabuwyd llwyddiannau amgylcheddol Cymru, yn cynnwys lefelau uchel o ailgylchu ac effeithlonrwydd ynni, a buom yn trafod rôl allweddol dinasoedd Cymru a’r byd wrth helpu gwledydd i gyflawni ymrwymiadau o ran newid yn yr hinsawdd.

Siaradais am sut mae ein gweledigaeth i greu’r ddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop yn cyd-fynd â’r heriau amgylcheddol rydym yn eu hwynebu. Mae strategaethau Cyngor Dinas Caerdydd yn gobeithio arwain at ostwng allyriadau CO2 gan 35% erbyn 2022, diogelu ein Llain Las a chreu ynni ein hunain, er enghraifft trwy gynllun trydan dŵr Cored Radur.

Roedd hi’n dda gweld bod pobl yma yng Nghymru yn ymrwymo o ddifrif i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a chynnal amgylchedd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Ysgolion

Cymeradwyodd y Cabinet gynlluniau er mwyn gwella addysg yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Yn dilyn ymgynghoriadau ac adroddiadau, cytunwyd ar gynigion ar gyfer ysgolion yn Butetown, Treganna, Grangetown a Glan-yr-afon, Adamsdown a Sblot, a Chaerau a Threlái. Roedd hyn yn dilyn blwyddyn lwyddiannus ar gyfer addysg yn y ddinas, ac mae’n fuddsoddiad mawr yn nyfodol ysgolion a phobl ifanc y ddinas, yn unol â blaenoriaeth y Cyngor i roi gwell addysg a sgiliau i bawb.

Mae’r cynlluniau sydd wedi’u cymeradwyo, sy’n fuddsoddiad o dros £58 miliwn, yn cynnwys:

  • Ysgol uwchradd newydd ar gyfer gorllewin y ddinas, yn gwasanaethu cymunedau yn ac o amgylch Caerau a Threlái ar safle presennol Ysgol Uwchradd Glyn Derw, a fydd yn agor ym mis Medi 2018.
  • Gwasanaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gyfer ardaloedd yn ac o amgylch Butetown, Treganna, Grangetown a Glan-yr-Afon o fis Medi 2017.
  • Gwasanaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gyfer ardaloedd yn ac o amgylch Adamsdown a Sblot o fis Medi 2017.

Bydd y gwasanaeth addysg gynradd yn cynyddu drwy adeiladu ysgolion newydd ac estyn rhai presennol.

Bydd y cynigion datblygu’n mynd trwy’r broses gynllunio. Pan fydd y rhain wedi eu cymeradwyo, bydd cyfleusterau addysg modern o safon uchel ar gael ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg trwy’r ddinas, a bydd hyn yn fuddsoddiad mawr yn nyfodol y ddinas.