Bywgraffiad

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn ystod cyfnod cynnar ei yrfa, bu Phil yn gweithio yn y sector gwasanaethau ariannol. Yna, aeth i astudio ar gyfer gradd Feistr Llywodraethu Corfforaethol ym Mhrifysgol Llundain, cyn ymuno â swyddfa Julie Morgan, Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Tra roedd yn astudio ar gyfer ei radd Feistr, cynigiodd Phil ei hun fel ymgeisydd annibynnol yn yr etholiadau cynghorau lleol yn Llundain. Penderfynodd ymgeisio ar ôl cydweithio mewn ymgyrch i atal diddymu cynllun system tramiau yn ne Llundain. Cyn hynny, roedd wedi sefydlu grŵp preswylwyr yn North Peckham, a fu’n lobïo ynghylch y mater. Yr etholiad oedd y profiad cyntaf a gododd awch Phil am ymgyrchu cymunedol lleol.

Ymunodd Phil â’r Blaid Lafur yn 2010 ar ôl iddi golli’r Etholiad Cyffredinol, a dychwelodd i Gaerdydd yn fuan ar ôl hynny. Yma, ymunodd ag ymgyrchwyr lleol er mwyn ceisio achub Cronfa Ddŵr Llanisien.

Roedd cwmni ynni o America, a oedd berchen ar y gronfa ddŵr, am ddatblygu’r safle er mwyn datblygu ystâd dai fawr. Aeth Phil i gopa Mynydd Kilimanjaro er mwyn codi arian dros yr ymgyrch, ac yn 2012, bu iddo sefyll fel ymgeisydd a chafodd ei ethol i Gyngor y Ddinas yn cynrychioli cymdogaethau Llanisien a Draenen Pen-y-Graig, yr ardal lle cafodd ei fagu. Ar ôl yr etholiad, aeth i’r Unol Daleithiau er mwyn wynebu’r gorfforaeth ar oedd berchen ar y gronfa ddŵr yn uniongyrchol. Yn hwyrach, gadawodd y cwmni eu cynlluniau datblygu a gwerthu’r safle i gwmni dur lleol sy’n dibynnu ar ddŵr o’r gronfa ar gyfer y gwaith.

Blog3

Ym mis Mawrth 2014, daeth Phil yn Arweinydd Cyngor y Ddinas, ac mae’n cynrychioli’r Cyngor ar amryw o fyrddau cyfarwyddwyr a phartneriaethau, gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm (Stadiwm Principality).

Fel Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Phil yw pennaeth Cabinet y Ddinas, ac mae ganddo gyfrifoldebau portffolio penodol yn Neuadd y Ddinas ar gyfer Datblygu Economaidd a Materion Corfforaethol.

Gan mai hi yw’r brifddinas, mae Caerdydd fwy cadarn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau Cymru fwy cadarn. Dyna pam mae gweinyddiaeth Phil, dan ei arweiniad ef, wedi lansio gweledigaeth newydd ar gyfer y ddinas, sef: dod y ddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop, a datblygu ar yr enw ardderchog sydd gan Gaerdydd eisoes am fod yn ddinas lle mae safonau byw yn uchel.

Yn sgil hyn, mae’r ddinas wedi bod yn ymdrechu’n gynyddol i wella ei delwedd gartref a gerbron gwledydd eraill. Yn 2014, ymunodd Caerdydd â Grŵp Dinasoedd Craidd y DU – rhwydwaith o ddeg dinas fwyaf Prydain, ac eithrio Llundain, sy’n hyrwyddo rôl y dinasoedd o ran twf economaidd a chreu swyddi newydd.

Corecities

Ynghyd ag Arweinydd Cyngor Casnewydd a Maer Bryste, mae Phil wedi sefydlu ‘Dinasoedd Mawr y Gorllewin’, sy’n gydweithrediad rhyngranbarthol newydd cyffrous rhwng Caerdydd, Bryste a Chasnewydd er mwyn cefnogi eu blaenoriaethau cyffredin mewn meysydd megis buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ranbarthol.

Mae Phil wedi cydnabod bod angen i Gaerdydd weithio’n fwy clos fel ‘dinas-ranbarth’ gyda chynghorau eraill de-ddwyrain Cymru, ac mae wedi bod yn hyrwyddo ‘Bargen Ddinesig Caerdydd’. Os yw hyn yn llwyddiannus, gall ddod â hyd at £1.28 biliwn o fuddsoddiad newydd mewn seilwaith i brifddinas-ranbarth Caerdydd yn debyg i’r cytundebau lleol eraill a luniwyd rhwng y Llywodraeth Ganolog a Dinasoedd yn yr Alban a Lloegr.

Fel Arweinydd, mae Phil yn ymroi i gyrraedd yr amcan o sicrhau y daw Caerdydd yn ddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop, lle caiff pob plentyn addysg wych; lle rydym yn gwarchod y preswylwyr sydd fwyaf agored i niwed; dinas lle mae pobl Caerdydd o bob cefndir yn gwireddu eu potensial a’u dyheadau mewn bywyd.

Cymerais hun-lun gyda staff y cyngor yn Neuadd y Ddinas