Cymeradwyo’r Gyllideb, Adroddiad y Swyddfa Archwilio a’r Ganolfan Gymraeg

Cymeradwyo’r Gyllideb

Cymeradwyodd Cyngor Dinas Caerdydd ei gyllideb ar gyfer 2016/17 mewn cyfarfod llawn yn Neuadd y Ddinas ddydd Iau diwethaf. Er bod y ddinas wedi derbyn setliad gwell na’r disgwyl gan Lywodraeth Cymru, mae’n dal i fod yn lleihad o ran arian parod. Mae hyn yn golygu y bu’n rhaid gwneud penderfyniadau caled ynghylch y gyllideb. Dyna pam fod cael pedair prif flaenoriaeth mor bwysig, gan eu bod yn rhoi ffocws i benderfyniadau ynghylch ariannu gwasanaethau lleol. Rydym felly wedi dewis gwario’r arian ar ein prif flaenoriaethau, sef:

  1. Addysg a sgiliau gwell i bawb
  2. Cefnogi pobl sy’n agored i niwed
  3. Creu mwy o swyddi a swyddi sy’n talu’n well
  4. Gweithio gyda’n gilydd i drawsnewid gwasanaethau

Y realiti llym yw mai eithriad yw setliad eleni, yn hytrach na’r sefyllfa arferol, ac felly mae’n rhaid i ni gynllunio’n synhwyrol a doeth yn ariannol ar gyfer y dyfodol. Uchafbwyntiau ein cyllideb yw:

  • Gostwng y cynnydd arfaethedig o ran y Dreth Gyngor o 4.5% i 3.7% (cynnydd o 73c yr wythnos ar gyfer eiddo Band D)
  • Gwarchod y celfyddydau – mae’r toriadau i Artes Mundi, Canwr y Byd Caerdydd a grantiau celfyddydau cymunedol wedi eu tynnu o’r gyllideb
  • Ychwanegu £1.9 miliwn i Grantiau Addasiadau ar gyfer Pobl Anabl
  • Rhoi £1.6 miliwn ychwanegol i’r twf yng nghyllideb ysgolion – bydd hyn yn ariannu’n llawn yr effaith o ddiddymu rheolau contractio o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr i ysgolion
  • Sefydlu cronfa o £500,000 ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant/Plant sy’n Derbyn Gofal/Prentisiaethau
  • Ymyriadau wedi eu targedu er mwyn trwsio tyllau yn y ffordd – £320,000 ychwanegol
  • Arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau glanhau stryd – £320,000 ychwanegol

BudgetCouncilTax

Newyddion da gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Roeddwn yn fodlon ar adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, ar weithredu’r Cyngor. Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod y Cyngor wedi dod yn “fwy cydlynol, wedi gwella ei gysylltiad ag aelodau a staff ac wedi rhoi cyfeiriad strategol clir ar waith ar gyfer y Cyngor.” Mae hefyd yn nodi bod arweiniad a rheolaeth y Cyngor wedi gwella diwylliant y sefydliad ac annog natur fwy agored a hunanymwybodol o ran gwendidau a chryfderau’r Cyngor.

Rydw i’n credu ein bod ni ar y trywydd cywir; rydym wedi gosod y sylfeini a dangos yr arweiniad angenrheidiol er mwyn gyrru’r Cyngor ymlaen drwy’r amseroedd ansicr a chaled hyn.

Mae llawer i’w wneud eto a does dim amser i ni fod yn hunanfodlon, ond rwyf am sicrhau pawb ein bod ac y byddwn yn parhau i weithredu dros Gaerdydd.

Ddwy flynedd yn ôl, cyn i mi ddod yn arweinydd, canfu Archwilydd Cyffredinol Cymru fod y Cyngor yn perfformio’n wael mewn prif feysydd oherwydd arweiniad a rheolaeth fratiog. Yn amlwg, nid dyma’r sefyllfa bellach.

Dros y misoedd nesaf, bydd Estyn ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn anfon eu gwerthusiadau o’r Cyngor atom yn dilyn arolygon diweddar, ac rwy’n gobeithio y byddan nhw hefyd yn nodi’r cynnydd rydym wedi ei wneud.

Rydym hefyd wedi gweithio’n galed i sicrhau Bargen Ddinesig a allai helpu i drawsnewid y disgwyliadau economaidd ar gyfer y Brifddinas-ranbarth. Mae llawer i’w wneud ac mae’r llwybr o’n blaenau’n un hir, ond mae arwyddion clir yn dangos ein bod yn cyflawni pethau ac yn eu cyflawni’n gywir.

 

Agor y Ganolfan Gymraeg

Rwy’n annog pawb i ymweld â’r Hen Lyfrgell, y Ganolfan Gymraeg newydd yng nghanol y ddinas a agorodd ddydd Iau diwethaf. Ni a’n partneriaid sydd wedi ariannu’r datblygiad cyffrous newydd hwn yng Nghaerdydd drwy Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru, ac roeddwn i’n falch iawn o’r canlyniad pan ges i’r cyfle i annerch yn y diwrnod agoriadol.

HenLyfrgell1  17

Mae’r Hen Lyfrgell yn gartref i nifer o sefydliadau Cymraeg, a bydd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a chyfleoedd i ymwelwyr, pobl ifanc a dysgwyr Cymraeg yn benodol. Mae Cyngor y Ddinas wedi gweithio gyda phartneriaid allanol i wireddu’r uchelgais o greu canolfan iaith a diwylliant unigryw a fydd yn dod ag ystod eang o fuddion economaidd a chymdeithasol i’r ddinas. Mae hefyd yn werth nodi bod y Ganolfan Gymraeg wedi creu dros 40 o swyddi dwyieithog.

HenLyfrgell1  10

Bydd y Ganolfan yn atyniad sy’n cynnig profiad i ymwelwyr o iaith a diwylliant Cymru yn ogystal â rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu am hanes y ddinas gan fod Amgueddfa Stori Caerdydd yn yr un adeilad. Bydd crèche yn yr adeilad a redir gan y Mudiad Meithrin, sy’n ddelfrydol ar gyfer y sawl â chyfrifoldebau gofal plant sydd am fynd i wers Gymraeg yn y ganolfan, neu sydd am siopa yn y ddinas.  Diolch yn fawr i’n partneriaid craidd a fu’n gweithio gyda ni ar y project hwn: Prifysgol Caerdydd, Clwb Ifor Bach, Mela Media, Menter Caerdydd a’r Mudiad Meithrin.

 

Diolch,

 

Phil