Y ddinas yn barod am her ailgylchu

Croeso i Vlog yr Arweinydd am yr wythnos hon – y diweddariad wythnosol ar rhai o’n gweithgareddau wrth i ni ymdrechu i wneud Caerdydd y ddinas orau yn Ewrop i fyw ynddi.

Yn gynharach yr wythnos hon ymwelais â’n cyfleuster ailgylchu yn Ffordd Lamby yn Nhredelerch gan ein bod ni newydd gyhoeddi’r newyddion gwych ei bod yn ymddangos ar hyn o bryd y bydd y Cyngor yn bwrw ei darged ailgylchu ar gyfer 2015/16. Er bod angen dilysu’r ffigurau a ryddhawyd, am y tro maent yn dangos cynnydd o bump y cant sy’n golygu y byddwn wedi mynd ychydig dros ein targed blynyddol o 58%.

Rhaid rhoi clod i drigolion a busnesau lleol ledled y ddinas sydd wedi ymateb mor dda i’n negeseuon o ran yr angen i fynd â mwy o wastraff o safleoedd tirlenwi a’i anfon i ganolfannau ailgylchu fel y gellid ei ailddefnyddio yn y dyfodol.

Mae gennym lawer o waith caled i’w wneud eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi targed anodd i ni sef ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn 2025 – ond mae’r ffigurau hyn yn dangos bod Caerdydd yn barod am yr her ailgylchu sydd o’i blaen!

 

Diolch,

Phil.